Lefel Sylfaen


Cyfranogi yn y gymuned

Cyfranogi yn y gymuned Yma cewch syniadau, adnoddau a gweithgareddau sy'n ddefnyddiol ar gyfer Cyfranogi yn y Gymuned Ar Lefel Uwch. Efallai y bydd rhai'n addas i’w haddasu i'w defnyddio ar lefelau Sylfaen neu Ganolradd. Croesawn gyfraniadau i'r adran hon gan ganolfannau Bagloriaeth Cymru.

Arnodd Disgrifiad
Cymru Digidol

Myfyrwyr Bagloriaeth yn annog pobl i fynd ar y we

O’r 2,308,000 o oedolion yng Nghymru  mae 785,000 (34%) ddim yn defnyddio’r we. Y mae’r Llywodraeth yn sylweddoli fod defnyddio’r we yn rhan allweddol o fywyd ac wedi clustnodi yr angen i wella hyn fel blaenoriaeth.  Y mae tua 515,000 o’r 785,000 o bobl dros 50 mlwydd oed.

Un ffordd llwyddiannus o gynnig cymorth yw gofyn i bobl ifanc i gynorthwyo pobl hynach i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol (sylwer gall y sgiliau gael eu trosglwyddo ddwy ffordd).  Gall hyn ddarparu pob math o fuddiannau cymunedol tu hwnt i’r sgiliau a ddysgwyd. Y mae hyn yn digwydd yn aml mewn modd anffurfiol gydag wyrion a theidiau a neiniau.

Oxfam

Dechreuwch y flwyddyn gydag addunedau sy’n annog disgyblion i feddwl ynglyn â’u cymuned leol, genedlaethol a byd-eang. Mae yno sleidiau PowerPoint lliwgar yn defnyddio lluniau i sbarduno plant i feddwl ynglyn â sut maent eisiau newid eu hunain, eu hysgol, eu hamgylchedd lleol a’u byd. Mae yno hefyd bedair sét o luniau, cyfres o sleidiau yn amlinellu’r wers gyfan a sét o ganlyniadau, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer sut i ddefnyddio’r delweddau.

Whizz Kidz Pecyn adnoddau a deunydd ategol yn rhad ac am ddim sy’n cynnig pump ‘Prosiect Gwaith Grwp’ sy’n hwyl ac yn ysbrydoli i adeiladu timau, datrys problemau ac ymgysylltu â’r gymuned.
Mantell Gwynedd

Dyma becyn cynhwysfawr sydd wedi ei gynhyrchu gan Mantell Gwynedd i gefnogi cyflwyno’r elfen Cyfranogiad Cymunedol cyrsiau Bagloriaeth Cymru. Prif rôl Mantell Gwynedd yw hyrwyddo a chefnogi y Trydydd Sector yn y sir. Mae yn gwneud hyn trwy ddarparu cefnogaeth uniongyrchol i fudiadau ar faterion cyfansoddiadol, ariannol, a chyfreithiol ayyb a hefyd trwy ddarparu hyfforddiant angenrheidiol, gwybodaeth am gyfleoedd ariannu a chyfleoedd i ymateb i ymgynghoriadau sydd yn debygol o gael effaith ar wasanaethau a ddarperir gan y trydydd sector. Dyma adnoddau defnyddiol sydd wedi eu llunio gan Fantell Gwynedd.

Blwyddiadur; Clawr i'r Adnodd; Cyflwyniad i'r Gwaith; Taflen am wirfoddoli; Taflen llyfryn y Fagloriaeth.

VCS Caerdydd Gwasanaeth Cymunedol Gwirfoddol (VCS) yn rhedeg Canolfan Gwirfoddoli Caerdydd ac mae wedi bod yn gweithio i gyd-fynd wirfoddolwyr posibl gyda chyfleoedd i helpu yng Nghaerdydd ers 1964. VCS yn annog gwaith gwirfoddol gan bob rhan o'r gymuned yng Nghaerdydd ac yn cefnogi polisi bod gan bawb rywbeth i'w gynnig ac yn gallu dod yn wirfoddolwr gwerthfawr.










































Termau a Amodau