Sefydliadau defnyddiol

l Mae llawer o sefydliadau a gwefannau sy'n darparu adnoddau ardderchog o ran gwybodaeth, syniadau ac adnoddau i Fagloriaeth Cymru. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Sefydliad Crynodeb

Gwasanaeth Addysg Cynulliad y cenedlaethol

Chwilota yn y Cynulliad

Gwefan gyda manylion am beth sydd ar gael i fyfyrwyr ac athrawon. Gwelir adrannau am “Sut mae’r Cynulliad yn gweithio”, y Gwasanaeth Addysg Allgymorth, ymweliadau i’r Senedd, newyddion diweddaraf ac adnoddau defnyddiol.

Mae’r hyn y mae'r Cynulliad yn ei gynnig wedi’i fapio i Fagloriaeth Cymru. Yma  

Save the Children Dyma wefan ardderchog gyda llawer o adnoddau’n cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau ac apeliadau diweddar, clipiau fideo a delweddau. Mae yna lyfrgell ar-lein. Edrychwch ar straeon llun a fideos sy’n dangos profiadau plant yn y DU ac o amgylch y byd.
Shelter Cymru Dyma adnodd helaeth gyda llyfrgell yn cynnwys ymchwil defnyddiol, datganiadau i’r wasg, astudiaethau achos, ffeithiau allweddol a gwybodaeth ddefnyddiol arall. Yn yr adran addysg, gellir canfod ‘Housemate’ sy’n adnodd addysgol ar ddewisiadau tai a digartrefedd i bobl ifanc 11-18 oed. Mae’r Rhan Ragarweiniol yn esbonio sut i ddefnyddio’r adnodd a sut y mae’n gweddu cwricwlwm ABCh.
Arms Sorey canolfan addysg awyr agored Canolfan addysg awyr agored. 'Mae ein rhaglenni hefyd yn mynd i'r afael â chynaladwyedd a dealltwriaeth o'n amgylchedd naturiol.'Mwy am gysylltiadau â gweithgareddau CBAC yma.
Mae timau cyfathrebu Llywodraeth Cymru Mae timau cyfathrebu Llywodraeth Cymru, yn Aberystwyth aCyffordd Llandudno, yn cyflenwi gweithgareddau i gefnogi Bagloriaeth Cymru, yn benodol yr elfen Cymru, Ewrop a'r Byd. Am fwy o wybodaeth neu i drafod syniadau posib cysylltwch ag Aberystwyth - ybont@cymru.gsi.gov.uk neu ffonio 0300 062 2021.Cyffordd Llandudno- ybontgogledd@cymru.gsi.gov.uk neu ffonio 0300 062 5603
Urdd Gobaith Cymru Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad i blant a phobl ifanc. Mae'’n darparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru gyfan. Mae swyddogion datblygu yn gweithio ym mhob ardal er mwyn sicrhau bod rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chynnig i blant a phobl ifanc. Mae tîm o staff yn bugeilio 300 o adrannau ac aelwydydd cymunedol. drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n rhoi cyfle i ieuenctid Cymru i fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddysgu parchu ei gilydd a phobloedd y byd. Mae’n croesawu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.
Gwefan addysgol Senedd y DU Dyma wefan ryngweithiol gyda gwybodaeth ar ymweliadau i’r senedd ac amrywiaeth o adnoddau defnyddiol yn cynnwys gemau, fideos, adnoddau bwrdd gwyn, cynlluniau dosbarth a chysylltiadau defnyddiol.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Dyma stori am gyfraniad Cymru yn y gorffennol, presennol a’r dyfodol at ddiwydiant ac arloesedd. Ceir amrywiaeth eang a hyblyg o ymweliadau ac adnoddau rhyngweithiol i athrawon a myfyrwyr. Am fyw o wybodaeth
Prfysgol Cymru        Y Drindod Dewi Sant Mae’r Brifysgol wedi dilysu ystod o fodylau wedi eu hachredu (Lefel 4 – 10 Credyd) y gallai eu darparu mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd. Rhywfaint o gefnogaeth y CBAC e.e. Cymru, Ewrop a'r byd a'r Modiwl Iaith.
Canolfan y Dechnoleg Amgen

Mae CyDA yn ganolfan addysg ac yn ganolfan i ymwelwyr sy’n dangos atebion ymarferol i gynaliadwyedd. Mae’n trafod holl agweddau byw yn wyrdd: adeiladu’n amgylcheddol, iechydaeth eco, rheoli coetir, egni adnewyddadwy, effeithlonrwydd egni a thyfu organig.

Mae CyDA yn darparu addysg sy’n seiliedig ar y cwricwlwm i ysgolion, colegau a phrifysgolion sy’n ymweld. Mae’n cynnal tripiau preswyl addysgol i ysgolion a cholegau mewn cabanau eco unigryw. Hefyd, mae CyDA yn cynnal gwaith addysgol allgymorth yn cynnwys hyfforddiant i athrawon ac ymweliadau ysgol.

British Counciil (Cymru)

Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd addysgol i fyfyrwyr, pobl broffesiynol ym myd addysg, pobl ifanc ac oedolion sy’n dysgu.

Edrychwch ar y cyfleoedd sydd ar gael i chi – lawrlwythwch ein arolwg addysgol.

CLIC

Sianel ar-lein a chylchgrawn chwarterol sy’n cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifanc 11-i-25 oed yng Nghymru. Gwybodaeth am ystod eang o bynciau a materion a gwybodaeth am ble i gael cymorth yn eich ardal leol. Mae’r sianel ar-lein yn caniatâu i bobl ifanc a sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw i lwytho erthyglau, lluniau, fideos, dyluniadau a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid

Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (IE): Cynllun Gweithredu i Gymru 2010-15. Ei nod yw rhoi sgiliau ac agweddau mentrus i bobl ifanc rhwng 5 a 25 i helpu gwireddu eu potensial, p'un ai sefydlu ei hun mewn busnes neu fod yn weithgar yn y gymuned.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gall Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru gynnig gweithdai i ysgolion sy'n cyflwyno Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Cyrsiau am ddim.

Amnest Rhyngwladol Cymru

Mae swyddfa Amnest yng Nghaerdydd yn ganolbwynt i ymgyrchu a digwyddiadau yng Nghymru.

Pecyn adnoddau Hawliau Dynol a Thlodi ar gyfer CA4.

www.amnesty.org.uk/povertyaction

Colorfoto

Ymweliadau am ddim i Gaerdydd labordy. Mae myfyrwyr yn dysgu am feddalwedd, photogrpahy, dylunio.

Gwasanaeth Gwaed Cenedlaethol

Gwasanaeth Gwaed Cymru

Gellir cysylltu Gwasanaeth Gwaed Cenedlaethol yr NHS gyda Chymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae’r Gwasanaeth yn gallu helpu gyda’r Fagloriaeth wrth wneud y canlynol. Gellir helpu i hyrwddo sesiynnau rhoi gwaed yn lleol i’ch cartref, e.e. dosbarthu posteri ac arddangos baneri. Mae rhoi gwaed unwaith yn cyfri fel 2 awr tuag at eich cyfranogiad cymunedol

Casgliad y Werin Cymru

Diben platfform digidol Casgliad y Werin Cymru yw casglu, dehongli ac arddangos hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru. Mae’r rhaglen hon yn ddwyieithog ac mae’n rhaglen sy’n torri tir newydd. Mae’r platfform hwn yn annog unigolion a grwpiau cymunedol, yn ogystal â sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol, i gyfrannu tuag at hanes Cymru.

Mae modd i amgueddfeydd, archifdai, llyfrgelloedd, grwpiau cymunedol ac unigolion ddefnyddio gwefan Casgliad y Werin Cymru. Gall defnyddwyr bori’r wefan, cyfrannu deunydd digidol, creu e-lwybrau a datblygu straeon digidol. Hefyd, mae adran ar y wefan sy’n ymwneud â dysgu ffurfiol ac anffurfiol.

Mae amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid yn ymwneud â’r rhaglen gan gynnwys Croeso Cymru, y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu, Cymdeithas y Cerddwyr, y BBC ac S4C.

True Tube Ystod o adnoddau ystafell ddosbarth for ABCh.
Comisiwn Coedwigaeth Cymru

Addysg Coetir yng Nghymru

Coetiroedd yn darparu amgylchedd dysgu awyr agored ysgogol. Tîm Coetiroedd ar gyfer Dysgu ledled Cymru, mae swyddogion addysg yn gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau gan gynnig ymweliadau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm mewn coetiroedd lleol.

Film Club Cymru Elusen addysgol gyda chefnogaeth o Lywodraeth Cymru ac eraill sy’n anelu at helpu  i gynnal clybiau ffilm.Ar ben hyn darperir cyfeloedd unigryw ac arbennig iawn i aelodau FILMCLUB/CLWBFFILM, gan gynnwys ffilmiau am ddim sy'n ddefnyddiol ar gyfer CEB, ABCh ac ar gyfer Cyfranogiad Cymunedol.
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Ystod o ymweliadau  ac adnoddau ystafell ddosbarth for Bagloriaeth Cymru e.e.. cynaliadwy.   Mae manylion llawn
Parc Treftadaeth Cwm Rhondda Mae'r Parc, sydd yn dystiolaeth fyw o gymunedau glo Cymoedd byd-enwog Cwm Rhondda, yn cynnig darlun rhyfeddol o ddiwylliant a chymeriad cyfoethog Cymoedd Deheubarth Cymrumewn amgylchedd sy’n unigryw, yn addysgiadol ac yn adloniant i bob oed.
Whizz Kidz Pecyn adnoddau a deunydd ategol yn rhad ac am ddim sy’n cynnig pump ‘Prosiect Gwaith Grwp’ sy’n hwyl ac yn ysbrydoli i adeiladu timau, datrys problemau ac ymgysylltu â’r gymuned.
Oxfam Dyma wefan ardderchog gyda llawer o adnoddau’n cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau ac apeliadau diweddar, clipiau fideo a delweddau.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Profiadau Ieuenctid yn Eryri a Llyn.  Mae gweithgareddau HERYRI yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau bywyd allweddol megis gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau a hyder, gan hefyd hwyluso sgiliau cymdeithasol a herio unigolion i fod yn fwy mentrus. Er bod y gweithgareddau’n addas.  ( 01766 510125)  robert.samuel@nationaltrust.org.uk
CEWC CYMRU Mae CEWC-Cymru (adain ysgolion Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru) yn helpu pobl ifanc i ddatblygu fel dinasyddion gweithgar yng Nghymru a’r byd. Mae CEWC yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau a all helpu cydlynwyr Bagloriaeth Cymru i ddarparu’r elfen Cymru, Ewrop a’r Byd, gan gynnwys cynadleddau model poblogaidd y Cenhedloedd Unedig.
Cymorth Cristnogol Cymru Mae Cymorth Cristnogol yn darparu adnoddau yn Gymraeg ar gyfer athrawon a disgyblion. Gellir lawrlwytho gwasanaeth cynradd ac uwchradd newydd bob mis, gweithgarwch dosbarth, sesiynau i bobl ifanc, cyflwyniadau PPT ac adnoddau Bwrdd Gwyn rhyngweithiol.
Gymorth Canser Macmillan Dyma pam mae Macmillan yn lansio'r pecyn cymorth Siarad Am Ganser i roi popeth sydd ei angen ar athrawon i addysgu eu disgyblion am ffeithiau canser, fel y gallant wneud dewisiadau hyddysg am eu ffordd o fyw a chreu cymdeithas fwy sensitif sy'n fwy ymwybodol o ganser.
Stori Caerdydd Mae’r amgueddfa yn ymdrin â hanes, etifeddiaeth a diwylliant prifddinas Cymru. Mae’r amgueddfa yn un rhyngweithiol, sy’n darparu amryw helaeth o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr ac athrawon y Fagloriaeth gan gynnwys  ymweliadau a arweinir gan athrawon yn ogystal â chyngor ac awgrymiadau ymchwilio ar gyfer yr Ymchwiliad Unigol neu Brojectau Estynedig. Mae'r amgueddfa hefyd yn gallu cynnig profiad gwaith a chyfleodd i wirfoddoli yn y gymuned. Cysylltwch â’n Swyddog Dysgu Rachel Carney ar 029 2078 8198 neu rcarney@caerdydd.gov.uk
engage Cymru engage Cymru yw prif sefydliad aelodaeth addysg oriel yng Nghymru, ac mae ganddo dros 70 o aelodau, gan gynnwys addysgwyr oriel ac amgueddfa, athrawon, swyddogion awdurdodau lleol ac arlunwyr. Mae engage Cymru yn hyrwyddo addysg oriel drwy eiriolaeth, cyfarfodydd grwp rhanbarth rheolaidd, rhwydweithio a digwyddiadau hyfforddi datblygiad proffesiynol, a thrwy ei brosiectau ymchwil.
Prosiect Dyfodol Pawb Maer prosiect Dyfodol Pawb yn cael ei gyflwyno drwy weithdai rhyngweithiol a digwyddiadau mewn ysgolion, i grwpiau ieuenctid agrwpiauhyn oboblar draws Caerdydda'r Fro. Mae Dyfodol Pawb yn herio stereoteipiau negyddol o bobl hyn ac iau. Mae'r prosiect hefyd yn anelu at ddatblygu prosiectau rhwng  y cenedlaethau, lle bydd pobl hyn ac iau yn gweithio gyda'i gilydd. Taflen
Neuadd y Sir Trefynwy YmaeNeuadd y Sirwedieileoliyngnghanol Trefynwy,yng Nghymru. MaeNeuadd y Sirynatyniadtreftadaethpwysig alleoliadachosllysSiartwyr enwog. Maeamrywiaeth ogyfleoedddysguar gael,maellawerwedicaeleifapioynerbynBagloriaeth Cymru.
Archifau Morgannwg

Mae Archifau Morgannwg yn casglu, yn diogelu ac yn cynnig mynediad i ddogfennau sy'n ymwneud â'r ardal ddaearyddol a wasanaethir ganddynt. Gallwn eich helpu i....

- olrhain hanes eich teulu
- darganfod hanes eich tref, pentref neu dy
- ymchwilio ar ran ysgol, coleg neu gwrs nos

Planet Cylchgrawn chwarterol Saesneg yw Planet sy'n gosod Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae'r cylchgrawn yn cynnwys pynciau sy’n cwmpasu gwleidyddiaeth, diwylliant, y celfyddydau, llenyddiaeth, materion cyfoes, cyfiawnder cymdeithasol, cwestiynau sy’n ymdrin ag ieithoedd leiafrifol, yr amgylchedd a mwy. Ar y wefan cewch weld rhywfaint o ddeunydd amlgyfryngol yn rhad ac am ddim gan gynnwys erthyglau, adolygiadau a phodlediadau. Mae’r rhan fwyaf o’r deunydd yn y cylchgrawn ei hun, sydd ar gael trwy danysgrifiad. Mwy - CBC a tanysgrifiadau.
Hybu: Pobl Ifanc Rhaglen ddeinamig ag atyniadol sy’n: hyfforddi pobl ifanc 16-18 oed allan o’r ysgol / coleg mewn gwirfoddoli, arweinyddiaeth a sgiliau entrepreneur. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnig profiadau mewn amrywiaeth o gyfleon gwirfoddoli. Mwy
Forest Stewardship Council (FSC) Corff rhyngwladol, anllywodraethol sy’n ymroi i hyrwyddo rheolaeth gyfrifol ar goedwigoedd y byd yw’r Forest Stewardship Council (FSC). Adnoddau iaith Gymraeg.Adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael.
Chwarae Teg Chwarae Teg yw’r prif sefydliad sy’n hyrwyddo datblygiad gyrfaol menywod yng Nghymru. Trwy hyfforddi, ymchwil, ymgynghori a chefnogi addysgwyr i herio gwahanu galwedigaethol a stereoteipio ar sail rhyw, mae Chwarae Teg yn helpu menywod a busnesau i gyflawni eu llawn botensial, gweithredu strategaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac arferion gweithio modern, a chyfrannu’n llawn at economi Cymru. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â post@chwaraeteg.com
South Wales Miners' Museum Nod yr amgueddfa hon yw codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth gymdeithasol pyllau glo De Cymru a gweithgareddau cysylltiedig trwy arddangos peiriannau, offer, adeiladau. Llenyddiaeth, ffotograffau a dyfeisiadau o ddiddordeb hanesyddol ac addysgiadol. Cynigir sesiynau addysgol gydol y flwyddyn ar gyfer amrediad o alluoedd. I drefnu eich ymweliad cysylltwch â Heather ar 01639 851 833 neu trwy e-bost at education@swmm.co.uk.
























Termau a Amodau