Mwy i Rieni
Beth yw Cymhwyster Bagloriaeth Cymru?
Mae Bagloriaeth Cymru’n gymhwyster cyffrous sy’n ychwanegu dimensiwn newydd a gwerthfawr at y pynciau a’r cyrsiau sydd eisoes ar gael i fyfyrwyr 14 i 19 oed.Mae’n cyfuno sgiliau datblygiad personol gyda chymwysterau cyfredol fel Lefel Uwch, NVQ aTGAU i ffurfio un dyfarniad ehangach sy’n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyra phrifysgolion.
Cyflwynwyd Bagloriaeth Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn gweddnewid dysgui bobl ifanc yng Nghymru. Mae’n cynnig profiadau ehangach na rhaglenni dysgu traddodiadol, igyd-fynd ag amrywiol anghenion pobl ifanc. Gellir ei astudio yn y Gymraeg neu’r Saesneg, neu mewn cyfuniad o’r ddwy iaith.
Beth mae Bagloriaeth Cymru yn ceisio’i gyflawni’?
Trwy ychwanegu sgiliau datblygiad personol at gymwysterau galwedigaethol neu astudiaethau academaidd, mae Bagloriaeth Cymru’n helpu pobl ifanc i gyflawni mwy. Mae’n eu harfogi’n well ar gyfer byd gwaith, yn rhoi gwell gwybodaeth iddynt ac yn eu gwneud yn ddinasyddion mwy brwd.
Mae’n caniatáu mwy o hyblygrwydd iddynt yn eu hastudiaethau, pa gyfuniad bynnag o gyrsiau y maent yn eu dilyn. Bydd myfyrwyr wedi’u paratoi’n well ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, yn ogystal ag ar gyfer gwaith.
Mae cymhwyster Bagloriaeth Cymru hefyd yn brawf fod myfyriwr wedi datblygu’r Sgilia Allweddol* a gaiff eu hystyried yn rhai pwysig gan gyflogwyr a phrifysgolion. Mae hefydyn dangos eu bod wedi ehangu eu haddysg bersonol a chymdeithasol, wedi ymgymryd agymchwiliad unigol, wedi cael profiad gwaith, ac wedi chwarae rhan frwd mewn prosiectcymunedol.