Creadigol a'r cyfryngau

Mae cymwysterau Prif Ddysgu mewn Creadigol a Chyfryngau yn rhoi cyfleoedd iír dysgwr ddysgu sut i feddwl, holi, ymchwilio, creu a chyfathrebu - a dod ‚ syniadauín fyw drwy wneud, perfformio a gwneud.

Wrth astudio am y cymhwyster hwn, bydd y dysgwr yn ymdrin a phynciau deinamig a chyffrous, gan gynnwys: celf weledol 2D a 3D; dylunio graffig; dylunio cynhyrchion; ffasiwn; tecstilau; hysbysebu; drama; dawns; cerddoriaeth; ffilm; teledu; radio; cyfryngau rhyngweithiol;animeiddio; gemau cyfrifiadurol; delweddu ffotograffig ac ysgrifennu creadigol.

Mae'n cynnwys:

  • Meddwl a gweithioín greadigol - ffyrdd o ymchwilio, arbrofi gyda a datblygu syniadau, sgiliau a thechnegau;
  • Egwyddorion, prosesau ac ymarfer - y sgiliau, technegau a phrosesau i droi syniadau yn realiti a chaffael sgiliau syín ganolog i rolau creadigol yn y gweithlu;
  • Busnesau creadigol a menter - dealltwriaeth o sefyllfaoedd busnes go iawn aír sgiliau sydd angen ar y dysgwr i lwyddo yn y diwydiant.:
Termau a Amodau