CBC - Uwch
Gofynion ar gyfer y Diploma Uwch
I ennill Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru rhaid i fyfyrwyr gyflawni'r dystysgrif graidd a chymwysterau opsiynol:-
Tystysgrif Graidd ar lefel 3:
- Tri sgil allweddol ar lefel 3, ynghyd â'r tri sgil allweddol arall ar lefel 2. Rhaid i o leiaf un o'r sgiliau allweddol fod yn Gyfathrebu, Cymhwyso Rhif neu TGCh
- Cofnodion dyddiadur a lle y bo hynny'n berthnasol ddatganiadau dilysu ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Cymru, Ewrop a'r Byd (gan gynnwys y modiwl iaith) ac Addysg Gysylltiedig â Gwaith
- Ymchwiliad Unigol ar lefel 3
Opsiynau
NVQ Lefel 3 neu Dystysgrif Genedlaethol BTEC ar lefel llwyddo neu ddwy radd A-E yn y TAG Uwch neu gyfatebol.
Cymwysterau Prif Ddysgu a phrosiect estynedig ar lefel 3.
Noder: efallai na fydd rhai pethau cywerth, o ran NVQ, TAA, BTEC neu gymwysterau eraill yn gwbl amlwg. Dylai canolfannau gyfeirio achosion o'r fath, neu ymholiadau tebyg, i CBAC.