Am y CBC
Beth yw Bagloriaeth Cymru?
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster blaengar a chyffrous sy'n cael ei gyflwyno gan ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Mae'n rhoi profiadau ehangach na rhaglenni dysgu traddodiadol, yn addas i anghenion amrywiol pobl ifanc.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, Darpariaeth Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel 3 mewn ysgolion uwchradd – canllaw arfer dda, canfu Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant, fod mwyafrif y myfyrwyr sy’n astudio craidd Bagloriaeth Cymru yn cael eu cyflwyno i ystod eang o destunau a chyfleoedd sy’n eu helpu i wella eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau rhyngbersonol.
Mae llawer o fyfyrwyr Cymru yn dod yn fwy hyderus, yn gwella eu medrau hanfodol a chymdeithasol ac yn cael dealltwriaeth well o ystod o destunau o fenter i wleidyddiaeth a materion cyfoes trwy astudio Bagloriaeth Cymru.
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster sy'n cael ei gynnig ar lefelau Sylfaen, Canolradd ac Uwch, a chaiff ei astudio wrth ochr amrywiaeth o gymwysterau academaidd traddodiadol a rhai galwedigaethol.
Mae mwy o wybodaeth fanwl ar y cymhwyster i'w gael yma.
Diweddaraf
Adolygiad o Gymwysterau 14-19
Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion adroddiad yr Adolygiad o Gymwysterau 14-19 yng Nghymru a gyhoeddwyd fis Tachwedd y llynedd. Yn yr adroddiad, argymhellwyd adeiladu ar Fagloriaeth Cymru a’i chryfhau i ddarparu fframwaith cyffredinol ar gyfer cymwysterau i bobl ifanc 14-19 mlwydd oed. Dylai’r Fagloriaeth adlewyrchu a chynnal cwricwlwm sy’n darparu addysg gyffredinol eang a chytbwys i bobl ifanc 14 i 16 mlwydd oed, a rhaglenni dysgu cydlynol i bobl ifanc 16 i 19 mlwydd oed. Mae CBAC ar hyn o bryd yn cydweithio â Llywodraeth Cymru o ran y datblygiadau newydd hyn ac yn rhoi cefnogaeth iddo. Mae grwp llywio a nifer o weithgorau wrthi’n cynllunio Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd i’w chyflwyno o fis Medi 2015. Bydd cefnogaeth a hyfforddiant ar gael gan CBAC i’r canolfannau ymhell o flaen dyddiad cychwyn y datblygiadau newydd.
Bydd un o argymhellion yr adolygiad yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2013. Yr argymhelliad hwn oedd y penderfyniad i ddyfarnu Craidd CBC ar y lefel Uwch. Bydd y system raddio newydd yn berthnasol i’r ymgeiswyr hynny sy’n cychwyn ar eu cyrsiau CBC lefel Uwch ym mis Medi 2013, byddant yn cael eu graddio am y tro cyntaf felly yn 2015. Bydd y garfan gyntaf i dderbyn graddau yn 2015 h.y. yr ymgeiswyrfydd yn dechrau eu cwrs yn Medi 2013. Manylion
- Digwyddiad Graddio (PowerPoint taflen)
Cylchlythyr Ionawr 2013
Diweddaraf
Ydych chi yn gwneud cais i gyflwyno neu ehangu ar eich cyflwyniad o Gymhwyster Bagloriaeth Cymru?
Mae’r cais a phroses cymeradwyaeth i gyd yn nwylo CBAC. Os hoffech chi wneud cais i fod yn ganolfan Bagloriaeth Cymru am y tro cyntaf neu os ydych am ehangu eich darpariaeth ar gyfer y cymhwyster e.e. dechrau’r cymhwyster gyda CA4 mi fydd rhaid i chi wneud cais. Gwelir gwybodaeth am y broses yma.
N.B. Bydd angen i ganolfannau gwblhau Cynlluniau Darparu ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.