Ymholiadau am Ganlyniadau
Ymholiadau am Ganlyniadau (EAR)
Gall Penaethiaid Canolfannau gyflwyno ymholiad am ganlyniad cydran Ymchwiliad Unigol Bagloriaeth Cymru drwy lenwi a dychwelyd ffurflen EAR Bagloriaeth Cymru CBAC i:
Uned CBC CBAC, 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX
Ffôn: 02920 265186
Dylid dychwelyd y ffurflen a lenwyd a chopi gwreiddiol o'r Ymchwiliad Unigol i'r cyfeiriad uchod erbyn 20 Medi 2013. Ni fydd ceisiadau'n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn.
£33 yw ffi'r ffurflen EAR am bob ymgeisydd. Ni ddylech amgáu’r ffi hon pan fyddwch yn gwneud cais am ymholiad. Byddwn yn anfon anfoneb atoch faes o law. Ni fydd ffi yn cael ei chodi os bydd canlyniad y safoni gwreiddiol yn newid.
Apeliadau
Pan fydd canlyniad yr EAR wedi cael ei adrodd, gall Pennaeth y Ganolfan apelio yn erbyn y penderfyniad. Dim ond ar ôl cwblhau'r EAR y gellir apelio. Dylai sail yr apêl ymwneud â threfniadau CBAC neu gymhwysiad y trefniadau hyn. Dylid apelio'n ysgrifenedig, a chynnwys unrhyw ddogfennaeth, a'i hanfon at y:
Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Sicrhau Ansawdd),
CBAC, 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX
Ffôn: 02920 265500
Ymholiadau Agregu
- Gall canolfannau wneud ymholiadau am ganlyniadau'r ymgeiswyr o ddyddiad y canlyniadau tan 20fed Medi
- Mae proses weinyddol effeithlon yn hanfodol i sicrhau bod y canlyniadau terfynol yn adlewyrchu cyflawniadau'r Ymgeiswyr, yn enwedig ar ddiwrnod y canlyniadau
Er mwyn lleihau ymholiadau agregu, gwnewch yn siwr eich bod yn darparu'r wybodaeth gywir i CBAC, ac yn cwrdd â’r terfynau amser, yn enwedig yn y canlynol:
- Cyflwyno cofrestriadau Sgiliau Allweddol
- Holl gymwysterau dewisol perthnasol ar y ffurflen PRATS
- Cyflawniad blaenorol yr holl Ymgeiswyr yn addas i Gymwysterau Dewisiadau a Sgiliau Allweddol
- Adnabyddiaeth yr ymgeisydd a data e.e. enw cywir a chyson er mwyn adnabod ymgeiswyr ar draws y cymwysterau