Cofrestriadau

Pwrpas y cofrestriadau hyn yw 'cyfnewid' ymrestriad yr ymgeisydd, a hawlio Diploma Bagloriaeth Cymru ar y lefel y mae'r holl elfennau wedi'u hennill. '


Cofrestru gyda CBAC

  • Mae dwy ffordd i gofrestru, naill ai EDI neu Wefan Ddiogel CBAC
  • Ni fydd cofrestriadau'n cael eu derbyn ar ôl diwedd Tymor yr Haf am Ddyfarniad Awst
  • Ni ellir dileu cofrestriadau unwaith y bydd canlyniadau Diploma CBC wedi'u cyhoeddi

Y dyddiad olaf i gyflwyno cofrestriadau Dyfarniadau Mawrth/Awst yw:

  • Dyfarniad Mawrth - 7 Rhagfyr 2012
  • Dyfarniad Awst - 21 Chwefror 2013


Cofrestru gyda CBAC

Bydd ffi o £15.75 am bob cofrestriad hwyr a dderbynnir ar ôl :

  • 18 Ionawr 2013 am Ddyfarniad Mawrth
  • 31 Mawrth 2013 am Ddyfarniad Awst


Mae cofrestriadau hwyr yn cynnwys cofrestriadau hwyr newydd a newidiadau lefel.

Hefyd, bydd ffi gychwynnol o £26.25 yn cael ei godi am yr holl gofrestriadau hwyr.

Noder:

  • Ni ellir cofrestru na gwneud newidiadau pellach ar ôl diwedd tymor yr haf.
  • Ni ellir dileu ymgeiswyr ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.


Cod Pwnc CBC:

  • 0991

Codau Cofrestru CBC:

  • Sylfaen cyn 16 - P1
  • Canolradd cyn 16 - P2
  • Sylfaen ôl 16 - 01
  • Canolradd ôl 16 - 02
  • Uwch ôl 16 - 03


Dyfarniad Mawrth 2013

Dylech fod yn ymwybodol, os yw canolfannau'n bwriadu cyflwyno Ymchwiliadau Unigol yn unig, y bydd angen defnyddio un o'r dulliau cymeradwyedig wrth gofrestru.

Rhaid i ganolfannau sy'n cofrestru am y Craidd a'r Diploma Bagloriaeth Cymru sicrhau bod yr holl Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) / Sgiliau Allweddol Ehangach (SAE) wedi'u cyflawni erbyn diwedd mis Chwefror. Cynghorir canolfannau i gyflwyno portffolios SHC/SAE cyfres mis Tachwedd er mwyn galluogi dyfarnu ym mis Mawrth.  Ni fydd yn bosibl 'cyflymu' SHC/SAE CBAC ar gyfer cyres mis Chwefror.

Termau a Amodau